Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (244)v4 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Papur Gwyn ar Lywodraeth Leol (45 munud) |
4 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Ardrethi Busnes (30 munud) |
5 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Gwella uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru (30 munud) |
6 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Y wybodaeth ddiweddaraf am gydweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau (30 munud) |
7 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Arloesi Meddygol (30 munud) NDM5680 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Arloesi Meddygol sy'n ymwneud â thrin a lliniaru clefyd, salwch, anaf, anabledd ac anhwylder meddwl; darparu gwasanaethau iechyd; llywodraethu clinigol a safonau gofal iechyd i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(ii).
Gellir gweld y Bil yn: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/medicalinnovation.html
Dogfennau Ategol |
8 Dadl: Adolygiad o Addasiadau Byw'n Annibynnol (60 munud) NDM5682 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau addasiadau a sut maent yn helpu pobl i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain am gyhyd â phosibl.
2. Yn nodi canfyddiadau'r Adolygiad o Addasiadau ar gyfer Byw'n Annibynnol, a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr 2015.
3. Yn cefnogi gweithredu gan Lywodraeth Cymru i wella'r cymorth sydd ar gael i bobl sydd angen tai wedi'u haddasu.
Cewch weld copi o'r Adolygiad drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/review-independent-living-adaptations/?skip=1&lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i lunio siarter cwsmeriaid yn amlinellu ymrwymiadau mewn perthynas â gwasanaethau addasiadau;
b) gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr tai cymdeithasol i nodi safonau ar gyfer amseroedd darparu a sicrhau eu bod yn cael eu bodloni gan bob awdurdod lleol;
c) archwilio gwasanaethau addasiadau i ganfod arfer gorau a'i roi ar waith; a
d) rhoi mecanweithiau ar waith i fonitro boddhad cwsmeriaid a chanlyniadau tymor hwy.
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod y profion modd ar gyfer addasiadau yn annheg ac yn hen ffasiwn.
Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi argymhellion allweddol yr ymgyrch Home Truths gan Leonard Cheshire Disability a'r adroddiad No Place Like Home.
Mae copi o'r adroddiad ar gael yma:
http://www.leonardcheshire.org/who-we-are/publications/latest-publications-download/no-place-like-home#.VMpZXmYYTcs (Saesneg yn unig)
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol eithrio mân addasiadau o brofion modd, fel yr argymhellir yn yr adolygiad. |
9 Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 4 Chwefror 2015